Tair buddugoliaeth o’r bron
25/10/2010 13:59Llwyddodd Bont i sicrhau eu trydedd buddugoliaeth o'r bron ddydd Sadwrn (23/10/10) gan guro Llanfair Itd o 2-1 ar Barc Pantyfedwen.
Mae’r canlyniad yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Talgarth a Rhosgoch y ddau benwythnos blaenorol ac yn codi Bont i’r wythfed safle yn y gynghrair.
Roedd y tîm cartref yn gyfforddus am y mwyafrif o’r gêm ac yn dipyn gwell na’i gwrthwynebwyr o Lanfair Caereinion. Er hynny, roedd yn rhyddhad i glywed y chwiban olaf o ystyried eu bod wedi gwastraffu goruchafiaeth debyg i ffwrdd mewn dwy gêm arall eleni.
Er mai Bont oedd yn bygwth fwyaf o’r cychwyn cyntaf, Llanfair aeth ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf. Methodd Bont ag amddiffyn ymosodiad ar yr asgell dde, a llwyddodd Tim Gomm i greu mymryn o le i’w hyn yng nghornel y cwrt cosbi. Ceisiodd Ben Jenkins flocio’r ergyd, ond gwyrodd y bêl oddi-ar waelod ei droed a heibio i Trevor Jenkins yn gôl.
Daeth y gôl yn erbyn llif y chwarae, a dal i bwyso oedd ymateb Bont. Daeth eu gwobr cyn yr hanner wrth i symudiad da yng nghanol cae roi lle i Michael Lowe ar y dde – chwaraeodd yntau bas wych dros ben yr amddiffyn ble’r oedd Jamie Evans yn rhuthro am y gôl. Evans yw prif sgoriwr Bont eleni a dangosodd ei hyder wrth ergydio’n galed i gornel isaf y rhwyd.
Roedd yr ail hanner yn ddigon tebyg i’r cyntaf gyda Bont yn ceisio adeiladu symudiadau ar y cae trwm, tra bod Llanfair yn dibynnu’n llwyr ar y bêl hir i’r ymosod.
Siôn Meredith sgoriodd y gôl fuddugol yn y diwedd, a hynny wedi cyfnod hir o bwysau gan y tîm cartref. Llwyddodd Llanfair i glirio wedi ymosodiad lawr yr asgell dde, ond anelodd Gwynfryn Hughes groesiad nôl am y cwrt cosbi. Methodd pawb y bêl cyn iddi lanio wrth draed Meredith oedd yn gwbl rydd yn y cwrt gyda digon o amser i osod y bêl yn daclus yn y rhwyd.
Roedd Bont yn awyddus iawn i sgorio trydedd a gwneud y gêm yn saff, a daeth digon o gyfleoedd i wneud hynny. Daeth y cyfleoedd gorau i Siôn Meredith wrth i’w beniad gael ei chlirio’n wyrthiol ar y llinell, ac yna i Ifan Evans ond iddo fethu ag ergydion ddigon cyflym yn y cwrt mwdlyd.
Bydd Andre Marsh a’i dîm yn ddigon hapus felly wrth baratoi i herio Meifod, sydd ar waelod y tabl, yr wythnos nesaf.
———
Back