Sion Meredith yn arwyddo / Sion Meredith signs up
27/08/2010 14:43
Newyddion ecsgliwsif o CPD Bont - mae Sion Meredith wedi arwyddo ar gyfer y tymor newydd.
Wedi wythnosau o glecs yn cysylltu Meredith gyda'i glwb cyntaf, cadarnhaodd rheolwr Bont, Andre Marsh, heddiw (27/08/10) for y cyn chwaraewr Uwch Gynghrair Cymru wedi llofnod.
Mae Marsh yn gobeithio y bydd y gwaith papur wedi ei gwblhau mewn pryd i allu cynnwys Meredith yn y garfan ar gyfer gêm gynghrair gyntaf y tymor yn erbyn Llandrindod nos Sul.
Mae'r newyddion yn cynhrychioli yr ail wyneb newydd i'r clwb yr haf hwn sydd â phrofiad chwarae ar lefel uchaf pêl-droed Cymru yn dilyn arwyddo Glyndwr Hughes bythefnos yn ôl. Mae Meredith wedi chwarae i Aberystwyth, Caerfyrddin, Caersws, y Trallwng ac y tymor diwethaf i Borthmadog, oll yn yr Uwch Gynghrair. Fel Glyndwr, mae hefyd yn wyneb cyfarwydd fel sylwebydd ar raglen bêl-droed S4C, Sgorio. Mae Sion wedi gwneud cyfanswm o 234 ymddagosiad yn yr Uwch Gynghrair gan sgorio 35 o goliau yn y broses.
Breaking news from the Bont FC camp - Sion Meredith has signed on for the coming season.
After weeks of speculation linking Meredith with his first club, Bont manager Andre Marsh confirmed today (27/08/10) that the former Welsh Premier League player has signed on the dotted line.
Marsh hopes all the necessary paper work will have been completed in time to include Meredith in his squad for this Sunday evening's league match at Llandrindod Wells.
The signing represents Bont's second former Welsh Premier signings of the summer, after Glyndwr Hughes joined a fortnight ago. Meredith has played for Aberystwyth, Carmarthen, Caersws, Welshpool and most recently, Porthmadog at Wales' highest standard. Like Glyndwr, he is also a familiar face as a pundit on S4C's Sgorio. Meredith has made a total of 234 appearances at Welsh Premier level, scoring 35 goals in the process.
Tags:
———
Back