Pethau’n poethi cyn gêm gwpan / Bont prepare for cup clash
16/09/2010 00:18Newyddion cymysg sydd ynglŷn â charfan Bont cyn eu gêm yn erbyn Coedpoeth yn ail rownd Tlws Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddydd Sadwrn.
Mae’r rheolwr Andre Marsh yn gobeithio cael Sion Meredith, Gwynfryn Hughes, Trystan Jones a Trevor Jenkins nôl yn ei garfan ar ôl iddynt oll fethu’r golled i Drefaldwyn ddydd Sadwrn.
Er hynny, mae Andrew Gilbert wedi ymuno â Dewi Sion Evans ar y rhestr anafiadau gydag anaf ar ei benglin, tra bod Ian Lee hefyd yn methu chwarae.
Pwy bynnag sydd ar y cae, bydd Marsh yn gobeithio gweld gwell perfformiad na’r un yn erbyn Trefaldwyn ddydd Sadwrn.
Coedpoeth United
Mae Coedpoeth yng nghyffiniau Wrecsam ac yn chwarae eu pêl-droed yn Uwch Adran Cynghrair Genedlaethol Cymru (ardal Wrecsam). Maen nhw’n chweched yn y gynghrair ar hyn o bryd ond yn dal i fo dyn ddiguro eleni. Maen nhw wedi ennill dwy gêm a chael un gêm gyfartal yn y gynghrair hyd yn hyn.
Mae Coedpoeth hefyd wedi cyrraedd ail rownd Cwpan Cymru yn dilyn buddugoliaeth o 4-3 yn erbyn Maesglas (Greenfields) yr wythnos diwethaf.
Mixed news from the Bont camp as they prepare for their FA Trophy Second Round tie at Coedpoeth this Saturday.
Manager Andre Marsh hopes to have Sion Meredith, Gwynfryn Hughes, Trystan Jones and Trevor Jenkins back in his squad after all missing the defeat to Montgomery last weekend.
However, Andrew Gilbert has joined Dewi Sion Evans on the treatment table with a thigh injury, whilst defender Ian Lee is also unavailable.
Whatever the team selection, Marsh hopes his team’s performance will improve dramatically from their 5-1 drubbing at Montgomery.
Coedpoeth United
Coedpoeth are in the Wrexham area and play their football in the Welsh National League Premier Division. They currently lie in sixth position but are unbeaten in the league so far this season having won two matches and drawn another.
Coedpoeth also made progress into the second round of the Welsh Cup last week beating Greenfield 4-3.
Tags:
———
Back