Herio'r tîm ar y brig / Bont face league leaders
02/10/2010 12:13Gêm enfawr i Bont y prynhawn yma (2/10/10) yn erbyn Ceri sydd ar hyn o bryd yn arwain yn Adran 2 Spar y Canolbarth.
Mae gan Andre Marsh garfan gryf i ddewis ohono, gyda Dewi Sion Evans a Michael Lowe yn dychwelyd o anafiadau a Sion Meredith hefyd ar gael i chwarae. Mae'r unig amheuaeth ynglŷn â ffitrwydd Andrew Gilbert sydd wedi bod yn dioddef o anaf i'w glun.
Mae Ceri wedi cael dechrau da i'r tymor ac yn ddiguro yn y gynghrair hyd yn hyn. Er hynny, bydd Bont yn awyddus i roi hwb i'w tymor wedi pythefnos heb gêm gynghrair.
Mae'r gêm i'w chwarae ar Barc Pantyfedwed - cic gyntaf am 2:30pm
A massive home match for Bont this afternoon(2/10/10) against league leaders Kerry.
Andre Marsh has a strong squad to choose from with Dewi Sion Evans and Michael Lowe both returning from injuries and Sion Meredith also available. The only doubt surrounds the fitness of Andre Gilbert who has been suffering from a thigh injury.
Kerry have had a good start to the season and are unbeaten in the league so far. Bont will be keen to record their first league win to kick start their season after a fortnight without a league match.
The match will kick off on Parc Pantyfedwen at 2:30pm
———
Back