Bont yn fuddugol yng ngêm gynta'r tymor
23/08/2010 21:15Roedd Bont yn fuddugol yn eu gêm gyntaf o'r tymor wrth iddyn nhw guro Carno ar giciau o'r smotyn ddydd Sadwrn (21/08/10).
Hon oedd gêm gyntaf y tymor ar Barc Pantyfedwen ac fe gariodd y tîm cartref ymlaen yn yr un modd ag y gorffenwyd y tymor diwethaf, gyda buddugoliaeth. Er hyn, roedd nifer o enwau amlwg yn eisiau gan Bont ac fe fydd y rheolwr, Andre Marsh yn falch iawn o'r canlyniad.
Carno, sy'n chwarae yn Adran 1 Spar y Canolbarth, aeth ar y blaen gyda gôl wedi 5 munud. Daeth Bont yn ôl yn gyfartal wedi hanner awr wrth i Jamie Evans sgorio. Roedd gweddill y gêm yn dynn, gyda'r un o'r ddau dîm yn llwyddo i ffeindio'r rhwyd yn y 90 munud, na'r 30 munud o amser ychwanegol a chwaraewyd.
Doedd dim amdani felly ond ciciau o'r smotyn. Sgoriodd Bont eu pedair cic cyntaf trwy Ifan Evans, Glyndwr Hughes, Andrew Gilbert ac Andre Marsh, tra bod Carno wedi methu un o'u ciciau hwy. Camodd y capten, Trystan Jones, ymlaen i gymryd y bumed gic i sicrhau'r fuddugoliaeth ond taro'r postyn oedd ei hanes. Aeth yn artaith yn ei flaen felly nes y 9fed gic i'r ymwelwyr a gymerwyd gan eu golgeidwad. Golgeidwad Bont, Trevor Jenkins oedd yr arwr yn arbed gyda'i draed.
Dechrau cyffrous a champus i'r dynion oren felly.
Tags:
———
Back